Agar House Tel 01492 875572

Email: agarhouse17@yahoo.com Call: 01492 875572 | Check availability and book online | Email Us!

Book Online

BOOK NOW

Location Map

Map for Agar House Llandudno

Trip Advisor

TripAdvisor

Food Hygiene Rating

Our Food Hygiene Rating 5

Attractions > Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.

Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thwr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw.

Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dwr a mynediad hawdd i’r mÔr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.

Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.

News & Special Offers

Gofynnwch am fynediad am ddim os ydych yn byw yng Nghymru ac yn 60 oed neu'n hyn neu'n 16 oed neu'n iau.

Entrance Charge

  • Oedolion £4.95 Pris Gostyngol £4.60
  • Tocyn Teulu £14.50 (2 oedolyn a phob plentyn o dan 16 oed)
  • Plant o dan 5 oed AM DDIM
  • Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Prisiau’n ddilys tan 31ain Mawrth 2010.

Opening Times

Mynediad olaf 30 munud cyn cau. 1 Ebr-31 Hyd 09 9am-5pm yn ddyddiol 1 Tach 09-31 Maw 10 Llun-Sad 9.30am-4pm, Sul 11am-4pm Ar gau 24, 25, 26 Rhag, 1 Ion

Contact Details

Castell Caernarfon

Castle Ditch.. Caernarfon Gwynedd LL55 2AY Wales

Tel: 01286 677617

Map Available

Our Website